Genesis 23

Sara yn marw

1Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti. 3Yna dyma Abraham yn codi a mynd i siarad gyda disgynyddion Heth, 4“Mewnfudwr ydw i, yn byw dros dro yn eich plith chi. Wnewch chi werthu darn o dir i mi i gladdu fy ngwraig?” 5A dyma ddisgynyddion Heth yn ateb, 6“Wrth gwrs syr. Rwyt ti fel tywysog pwysig yn ein golwg ni. Dewis y bedd gorau sydd gynnon ni i gladdu dy wraig ynddo. Byddai'n fraint gan unrhyw un ohonon ni i roi ei fedd i ti gladdu dy wraig.”

7Dyma Abraham yn codi ar ei draed ac yn ymgrymu o flaen y bobl leol, sef disgynyddion Heth. 8Yna dwedodd wrthyn nhw, “Os ydych chi'n hapus i mi gladdu fy ngwraig yma, wnewch chi berswadio Effron fab Sochar 9i werthu'r ogof yn Machpela i mi. Mae'r ogof ar ei dir e, reit ar y ffin. Gwna i dalu'r pris llawn iddo amdani yma o'ch blaen chi, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”

10Roedd Effron yn eistedd yno ar y pryd, ac meddai wrth Abraham o flaen pawb oedd yno wrth giât y ddinas, 11“Na, gwrandwch syr. Dw i'n fodlon gwerthu'r darn hwnnw o dir i gyd i chi, a'r ogof sydd arno. Dw i'n dweud hyn o flaen fy mhobl yma. Dw i'n hapus i chi ei gymryd i gladdu eich gwraig.” 12A dyma Abraham yn ymgrymu eto o flaen y bobl leol. 13“Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i'n cytuno. Dw i'n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.” 14Dyma Effron yn ateb, 15“Syr. Beth am 400 sicl o arian? Dydy hynny'n ddim byd i ddynion fel ti a fi. Wedyn cei gladdu dy wraig.” 16Felly dyma Abraham yn cytuno i'w dalu. A dyma Abraham yn pwyso'r swm o arian oedd wedi ei gytuno o flaen tystion, a'i roi i Effron, sef 400 darn o arian yn ôl mesur safonol y cyfnod.

17Felly prynodd Abraham y tir gan Effron. Roedd yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd yr ogof oedd arno a'r coed oedd o fewn ei ffiniau. 18Roedd disgynyddion Heth a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i'r cytundeb.

19Ar ôl prynu'r tir dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan. 20Cafodd y tir a'r ogof oedd arno eu gwerthu i Abraham gan ddisgynyddion Heth, iddo gladdu ei deulu yno.

Copyright information for CYM